|
Mae Tîm Achub a Chwilio De Eryri yn fudiad gwirfoddol sy’n cael ei noddi gan Magnox, World Online ac Unilite.
Ffurfiwyd Tîm De Eryri yn 1993 pan unwyd Tîm Achub y Rhinogydd a Thîm Achub y Moelwyn. Bu’r ddau dîm yma yn gweithio yn ddiwyd ers y saithdegau cynnar ac roedd y ddau yn aelodau o Gymdêithas Timau Achub Mynydd Gogledd Cymru.
Mae’r tîm yn gyfrifol am Y Rhinogydd, Y Moelwynion a’r Arenig a’r ardaloedd o’u cwmpas.
Pan sefydlwyd y tîm, fe’i cofrestrwyd fel elusen ac erbyn hyn mae gennym ganolfan yn Nhrawsfynydd. Ynghyd a gwaith mynydd, mae’r tîm yn cynorthwyo’r heddlu i chwilio ardaloedd trefol, e.e. plant neu oedolion ar goll
|