Mae tua 15 aelod yn y tîm o bob galwedigaeth a chefndir. Maent yn hyfforddwyr mynydda, milfeddyg, coedwigwr, tafarnwr, adeiladwr, llywodraeth leol ,ffatrioedd ac yn y blaen. Maent i gyd yn fodlon cydweithio i gynorthwyo’r rhai sy’n mynd i anhawsterau ar y mynydd.

Mae’r tîm yn elusen gofrestredig Rhif: 1033116 ac yn gwbwl ddibynnol ar roddion gan y cyhoedd i dalu’r costau rhedeg, sydd tua £6-8000 y flwyddyn.

Ni chaiff yr aelodau unrhyw dâl o gwbwl, yn wir, meant yn cyfrannu yn ariannol yn flynyddol i fod yn aelodau. Ni ofynnir am unrhyw gostau teithio chwaith os yn gweithio o fewn ardal y tîm ac mae’r aelodau yn defnyddio eu offer personol eu hunain.

Rydym yn awyddus i ddenu mwy o aelodau i'r tîm gan geisio cynyddu’r nifer i 24. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymaelodi, cliciwch ar Aelodaeth

 

Mewn argyfwng sydd angen tîm achub mynydd, ffoniwch 999 a gofyn am yr Heddlu a Thîm Achub Mynydd.