Mae’r tîm yn ffodus o gael hen Gapel Cae Adda, ar lan Llyn Trawsfynydd fel canolfan. Rhoddwyd yr adeilad, a fu gynt yn labordy i'r atomfa, i'r tîm gan gwmni Magnox. Mae’r adeilad nawr ym meddiant y tîm ar les o 25 mlynedd ac yn talu rhent bychan iawn.

Ar hyn o bryd (Gorffennaf 2000) , mae’r tîm yn y broses o ailwampio’r adeilad gyda chymorth rhodd hael iawn gan World Online, un o noddwyr y tîm.

Mae’r capel wedi ei leoli’n ddelfrydol ar gyfer cyfathrebu radio trwy ddalgylch y tîm ac fe’i defnyddir i gyd-drefnu achub a chwilio, y brif storfa offer ac fel canolfan i redeg cyrsiau sy’n angenrheidiol i wella gallu’r aelodau.

Mae ardal Tîm Achub a Chwilio De Eryri oddeutu 800 km sgwar yn cynnwys Y Rhinogydd, Y Moelwyn a’r Arenig ynghyd ag ardaloedd eang o weundir a thir amaethyddol. Mae’r ardaloedd yma yn denu cerddwyr a dringwyr sydd am brofi ardal dawelach na’r rhannau poblog yng ngogledd y Parc.

In the event of an emergency requiring a rescue team, please dial 999 and ask for Mountain Rescue.