pan mae’r ffôn yn canu…..

Mae’r tîm ar gael 24 awr o’r dydd, pob dydd o’r flwyddyn i gynorthwyo ar fynydd neu i chwilio am y colledig.

  • Mae’r tîm yn ymateb i alwadau gan yr heddlu, pan mae aelod o’r cyhoedd yn cysylltu a hwy trwy ffonio 999.

  • Bydd arweinydd y tîm yn asesu’r sefyllfa ac yn ymateb fel bo’r angen.

  • Byddwn yn penderfynu ar fan cyfarfod a’r aelodau yn cael eu galw ar y ffôn neu pager.

  • Rhaid cofio mai gwirfoddolwyr yw’r aelodau i gyd. Bydd y rhan fwyaf ohonnynt wrth eu gwaith pan ddaw galwad.

  • Gall y man cyfarfod fod yng Nghae Adda, gorsaf heddlu neu os oes rhaid, ein carafan rheoli symudol.Mae modd cludo hon i fan addas i reoli’r digwyddiad.

  • Pan mae’r aelodau yn cyrraedd, byddant yn cael ardal benodol i'w chwilio neu cael eu anfon i Gyfeirnod Grid penodol os oes un ar gael.

  • Fel arfer, bydd aelod o’r heddlu yn bresennol yn y man cyfarfod i gysylltu a’r gwasanaethau brys eraill.
  • Gall y tîm alw am gymorth gan wahanol gyrff , gan gynnwys un o’r timau eraill o Ogledd Cymru.(6 ohonynt). Cymorth pwysig iawn yw 22 Squadron yr Awyrlu, sydd wedi eu lleoli yn Y Fali, Ynys Mon. Mae cymorth ar gael hefyd gan SARDA (Cymdeithas Cwn Chwilio ac Achub)

Mewn argyfwng sydd angen Tîm Achub Ffoniwch 999 a galwch yr Heddlu a gofyn am y Tîm Achub Mynydd.